Cymraeg (Welsh) and Linguistics Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Course Overview - Cymraeg (Welsh) and Linguistics Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Ar y cwrs cyd-anrhydedd hwn, bydd eich modiwlau'n cael eu rhannu rhwng Cymraeg ac Ieithyddiaeth. Mae Cymraeg yn faes eang sy'n cwmpasu chwedlau'r Mabinogi a gwaith ôl-fodernaidd awduron fel Mihangel Morgan. Ieithyddiaeth yw'r astudiaeth o strwythur iaith, sut y caiff ieithoedd eu caffael, sut y cânt eu defnyddio, a sut y gall nam ieithyddol amharu arnynt. Wrth i Gymru gofleidio dwyieithrwydd fwyfwy byddwch hefyd yn astudio defnydd proffesiynol y Gymraeg ac yn anelu at yrfa yn y sectorau marchnata, llywodraeth leol, darlledu, cyhoeddi, addysgu, cyfieithu a'r celfyddydau.
Byd...
Ar y cwrs cyd-anrhydedd hwn, bydd eich modiwlau'n cael eu rhannu rhwng Cymraeg ac Ieithyddiaeth. Mae Cymraeg yn faes eang sy'n cwmpasu chwedlau'r Mabinogi a gwaith ôl-fodernaidd awduron fel Mihangel Morgan. Ieithyddiaeth yw'r astudiaeth o strwythur iaith, sut y caiff ieithoedd eu caffael, sut y cânt eu defnyddio, a sut y gall nam ieithyddol amharu arnynt. Wrth i Gymru gofleidio dwyieithrwydd fwyfwy byddwch hefyd yn astudio defnydd proffesiynol y Gymraeg ac yn anelu at yrfa yn y sectorau marchnata, llywodraeth leol, darlledu, cyhoeddi, addysgu, cyfieithu a'r celfyddydau.
Byddwch yn astudio'r pynciau hyn mewn canolfan sydd ag enw da drwy'r byd ar gyfer astudio Cymraeg, Astudiaethau Celtaidd a Dwyieithrwydd, a honno wedi ei lleoli mewn ardal lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i'r mwyafrif. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd hynod werthfawr i wneud gwaith maes mewn meysydd fel dwyieithrwydd, caffael a throsglwyddo iaith, a sut mae plant yn ymwneud ag iaith.
O gyfuno Cymraeg ac Ieithyddiaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau gwyddonol sy'n briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sut i ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth, ac yn dod i ddeall mwy am hanes a chymdeithaseg yr iaith Gymraeg. Cyfoethogir hyn trwy edrych ar ddatblygiadau ieithyddol yn fyd-eang, a dod i ddeall yn wyddonol sut y mae iaith yn cael ei defnyddio a'i phrosesu gan unigolion a chymunedau, gan gynnwys rhai dwyieithog.
Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennu'n hyderus ac yn effeithiol, i gyfieithu a sgriptio, ac o gasglu a dadansoddi data i gyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn modd eglur, trefnus ac effeithiol. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle arbennig i gyfuno'r llenyddol, y creadigol, yr ieithyddol a'r gwyddonol. Yn sicr, mae amrywiaeth y cwrs yn eithriadol o werthfawr, a'r ddau bwnc yn cynnig rhychwant eang o sgiliau a gwybodaeth i chi.
Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu English Language and English Literature (with Foundation Year) QQCF.
Course Information
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
2027-09-20
Campus
Main Site
Application Details
Provider Details
Codes/info
Course Code
A34-C66
Institution Code
B06
Points of Entry
Year 1
Entry Requirements
A level
B,C,C
A,B,B
Gan gynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Celfyddydau neu Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Ffrangeg, Almaeneg, Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol. Including a grade B in Welsh (or a grade B in an Arts or Humanities subject studied through the medium of Welsh - e.g. French, German, History, Geography, Religious Studies). General Studies and Key Skills not normally accepted.
T Level
Derbynnir cymwysterau Lefel T fesul achos. T Level qualifications are accepted on a case-by -case basis.
UCAS Tariff
104.0
128.0
Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall mewn Cymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher).
Scottish Higher
Isafswm o 5 Scottish Highers - efallai y bydd angen rhai graddau pwnc-benodol/Efallai y bydd angen Advanced Highers. Minimum of 5 Scottish Highers - some subject specific grades/Advanced Highers may be required.
Access to HE Diploma
Cwrs mynediad gydag elfen o Gymraeg. Access course with Welsh elements.
Extended Project
Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Points can include a relevant Extended Project (EPQ) but must include a minimum 2 full A-levels, or equivalent. Please contact us for more information.
International Baccalaureate Diploma Programme
Gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg. Including grade H5 in Welsh.
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)
DMM
DDM
Byddwn hefyd yn ystyried cymwysterau BTEC eraill ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill. We will also consider other BTEC qualifications in conjunction with other level 3 qualifications.
OCR Cambridge Technical Extended Diploma
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)
Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill. We will accept this qualification in conjunction with other level 3 qualifications.
Search Undergraduate Courses at Bangor University
Find more courses from Bangor University with our undergraduate course search.
Upcoming Open Days at Bangor University
16
Aug, 2026

Bangor University16 Aug 2026
Undergraduate Open Day
11
Oct, 2026

Bangor University11 Oct 2026
Undergraduate Open Day
24
Oct, 2026

Bangor University24 Oct 2026
Undergraduate Open Day
Fees and funding
| Region | Costs | Academic Year | Year | |
|---|---|---|---|---|
| England, Scotland, Northern Ireland, Wales, Republic of Ireland, Channel Islands | £9,790 | 2026/27 | Year 1 |
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.
























